Carys Eleri
Carys Eleri | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1982 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, cyflwynydd teledu, llenor, cyfansoddwr ![]() |
Mae Carys Eleri (ganwyd 21 Gorffennaf 1982) yn actores, cantores, ysgrifenwraig, cyfansoddwraig a chyflwynydd o Gymru.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Carys Eleri Evans yn Nghaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i David Evans a Meryl (nee James). Mae ganddi un chwaer, Nia Medi. Bu farw ei thad David ar 9 Awst 2018 o Glefyd Motor Neurone. Magwyd Carys yn y Tymbl a mynychodd Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa.
Cafodd Carys Eleri lwyddiant mawr yn yr Eisteddfodau. Fe wnaeth ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bro'r Preseli (1995), yn 12 mlwydd oed, yn fuddugol yn y llefaru unigol dan 15 oed. Y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bro Maelor (1996) enillodd Gystadleuaeth Siarad Unawd ar y testun "Eira".
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 2019, perfformio sioe gomedi wyddonol a cherddorol un fenyw o'r enw "Lovecraft (Not the *** shop in Cardiff)". Cafodd ganmoliaeth mawr gan gynnwys ennill gwobr y Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide yn Mawrth 2019.[1][2]
Mae wedi'i henwebu ddwywaith am wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau a'r Cyflwynydd Gorau. Yn 2013 enillodd y Norman Beaton Fellowship gydag adran ddrama BBC Radio 4. Mae hi wedi cael gyrfa helaeth yn y theatr a theledu yng Nghymru. Mae'n gantores ac yn aelod o Late Night Pop Dungeon Charlotte Church.
Yn 2021, rhyddhaodd ei chyfrol hunangofiannol Dod Nôl At Fy Nghoed,[3] sy'n adlewyrchu colled enbyd ei thad i Glefyd Motor Neurone yn 2018 a'i ffrind gorau i ganser y pancreas yn 2019.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Cyfnod Clo yn y flwyddyn 2020, aeth Carys Eleri i ysgrifennu, chyfansoddi a recordio albwm o'r enw "An Unexpected Pandemic Pop Album Volume 1. Let's hope there's no Volume 2. Enough Volume"[4] sy'n cynnwys saith trac am wallgofrwydd un fenyw ym mhob cyfnod clo.
- Trac 1 - Fat 'n' Clean - Daeth y gân hon fel bollt o fellt, tua phythefnos i mewn i'n cyfnod clo cyntaf erioed. Roedd yn siarad hefo ffrind a dywedodd "byddwn ni i gyd yn dew cyn hir - o fwyta bwyd sothach a dim un lle i fynd - ond byddwn ni gyd yn lân.
- Trac 2 - Beyond the Fence - Cân am cwympo mewn cariad hefo cymydog sydd newydd symud mewn a'r ddechrau y cyfnod clo.
- Trac 3 - He Dumped Me on Zoom[5] - Roedd pob peth yn cael ei wneud ar Zoom, ar cariad newydd yn ei gadael ar Zoom!
- Trac 4 - I love Nature Now[6] - Cwympo mewn cariad hefo coeden!
- Trac 5 - Water Closet[7] - Cân ddoniol am ferched yn defnyddio'r 'Water Closet'!
- Trac 6 - Fat n Keen -
- Trac 7 - Meteor -
Gwaith ar raglenni teledu[8]
[golygu | golygu cod]- Studs (2025 - Julie)
- Mabinogi-Ogi (Boom Cymru), (2022 i 2025 -5 Pennod (Cymeriadau - Gelert, Jamima Nicholas, Caradog Fraichfawr, Gwalchmai A'r Marchog Gwyrdd, Trystan Ac Esyllt)
- Pobol y Cwm (BBC Cymru) (2022 i 2024- Di Fielding)
- Y Sŵn (2023 - Nerys)
- The Loneliest Boy in the World (2022 - Mam Mitch)
- Save the Cinema (2022 - Cari Jenkins)
- The Toll (2021 - Betty)
- Parch (2015 - 2018 - Myfanwy)
- Destination, Ffilm fer (2017 - Lisa)
- Fire in My Heart, ffilm fer (2017 - Menyw)
- Under Milk Wood (2015 - Lily Smalls)
- Agatha Christie: Ordeal by Innocence (2014 - Tina)
- Jonsey (2014 - Shannon)
- Educator (2014 - Katie)
- Alys (2012 - Lilo)
- Dragon Crusaders (2011 - Witch of Caer 'lo)
- Sherlock Holmes (2010 - Troslais ychwanegol)
- Merlin and the War of the Dragons (2008 - Lady Viviane)
Cerddoriaeth[8]
[golygu | golygu cod]- Age of Outrage (2020 - 'Dual Flush' Cerddoriaeth a Geiriau)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Carys Eleri Takes Welsh Adaptation of Lovecraft Across Wales Venues". entssouthwales (yn Saesneg). 2019-09-13. Cyrchwyd 2025-02-20.
- ↑ Johnson, Kevin (2019-11-12). "Review Lovecraft (Not the *** Shop in Cardiff), Carys Eleri by Kevin Johnson". Get The Chance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-20.
- ↑ Carys Eleri. Dod 'Nôl at fy Nghoed. ISBN 9781800991095. https://www.ylolfa.com/products/9781800991095/dod-n%C3%B4l-at-fy-nghoed.
- ↑ "Enough Volume? Carys Eleri takes us on an odyssey through her pandemic pop album". Nation Cymru - 26 Awst 2021. https://nation.cymru/culture/enough-volume-carys-eleri-takes-us-on-an-odyssey-through-her-pandemic-pop-album/.
- ↑ Fideo YouTube - He Dumped me on Zoom. https://www.youtube.com/watch?v=eVThITmNhts.
- ↑ Fideo YouTube - I Love Nature Now. https://www.youtube.com/watch?v=00vu7teveP4.
- ↑ Fideo YouTube - Water Closet. https://www.youtube.com/watch?v=sU7PBp5seXk.
- ↑ 8.0 8.1 IMDb Carys Eleri. https://www.imdb.com/name/nm3154563/?ref_=nmawd_ov.