Diamedr
Math | segment o linell, maint corfforol, hyd, geometric property ![]() |
---|

Mewn geometreg, diamedr cylch yw unrhyw linell segment syth sy'n mynd trwy ganol y cylch a sydd â'i ddiweddbwyntiau yn gorwedd ar ymyl y cylch. Mewn geomtreg modern, mae diamedr hefyd yn cyfeirio at hyd y linell hon.
Diamedr yw cord hiraf cylch, ac mae'n ddwywaith maint radiws y cylch. Gellir ei ddiffinio hefyd fel cord hiraf y cylch. Mae'r ddau ddiffiniad hefyd yn ddilys ar gyfer diamedr sffêr. Ym mhob cylch, mae pob llinell o'i ganol i'r ochr (y diamedr) yr un hyd, sef dwywaith y radiws r.
Diffinnir diamedr siâp amgrwm yn y plân fel pellter mwyaf y gellir ei ffurfio rhwng dwy linell gyfochrog sydd gyferbyn a'i gilydd; ffurfir y lled gan y pellter lleiaf. Teclyn defnyddiol a hwylus i wneud hyn yw'r caliper tro.[1]
Ar gyfer cromlin o led cyson (e.e. y triongl Reuleaux), mae'r lled a'r diamedr yr un fath oherwydd mae gan bob pâr o'r llinellau tangiad cyfochrog hyn (parallel tangent lines) yr un pellter.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair 'diamedr' o'r Hen Roeg διάμετρος (diametros), "diamedr cylch". Mae'n air cyfansawdd, ac yn gyfuniad o ddau air: διά (dia), "ar draws, trwy" a μέτρον (metron), "mesur".[2] Caiff ei dalfyrru'n aml i: DIA, dia, d, neu ⌀.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Toussaint, Godfried T. (1983). Solving geometric problems with the rotating calipers. Proc. MELECON '83, Athens. http://citeseerx.ist.psu.edu/viewdoc/summary?doi=10.1.1.155.5671.
- ↑ Online Etymology Dictionary