Pune
Gwedd
![]() | |
Math | dinas, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 5,945,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Gefeilldref/i | Vacoas-Phoenix, San Jose, Fairbanks, Bremen, Tromsø, Nagoya, Tref y Penrhyn, Fairbanks North Star Borough, Okayama ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Marathi, Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pune district ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 710 km² ![]() |
Uwch y môr | 561 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Pimpri-Chinchwad ![]() |
Cyfesurynnau | 18.51957°N 73.85529°E ![]() |
Cod post | 411001–411062 ![]() |
![]() | |

Dinas yn nhalaith Maharashtra yng ngorllewin India yw Pune (Marathi/Hindi: पुणे, hefyd Poona). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 5,050,000 yn 2008, yr wythfed o ran poblogaeth ymhlith dinasoedd India. Saif ger cymer Afon Mula ac Afon Mutha.
Daeth Pune i amlygrwydd yn y 17g fel canolfan y Peshwe, prif weinidogion Ymerodraeth Maratha. Wedi i'r ddinas ddod dan reolaeth Brydeinig yn 1817, daeth yn ganolfan weinyddol Arlywyddiaeth Bombay yn ystod cyfnod y monsŵn.
Mae'n adnabyddus am ei chryfder yn y sector addysgol, gyda naw prifysgol a mwy na chant o sefydliadau addysgol yn y ddinas.