Talaith Bolzano
![]() | |
![]() | |
Math | taleithiau'r Eidal ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | County of Tyrol, de ![]() |
Prifddinas | Bolzano ![]() |
Poblogaeth | 531,178 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Arno Kompatscher ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Almaeneg, Ladineg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Trentino-Alto Adige ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,400.43 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Talaith Belluno, Talaith Trento, Talaith Sondrio, Canton y Grisons, Lienz District, Bezirk Zell am See, Schwaz District, Innsbruck-Land District, Imst District, Landeck District ![]() |
Cyfesurynnau | 46.5°N 11.33°E ![]() |
Cod post | 39100, 39010–39059 ![]() |
IT-BZ ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Talaith Bolzano ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Talaith Bolzano ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Talaith Bolzano ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Arno Kompatscher ![]() |
![]() | |
Talaith ymreolaethol yn rhanbarth Trentino-Alto Adige, yr Eidal, yw Talaith Bolzano (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladineg: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol). Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg. Dinas Bolzano yw ei phrifddinas.
-
Talaith Bolzano (coch) yn Trentino-Alto Adige
-
Talaith Bolzano yn yr Eidal
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 533,267.[1]
Mae'r dalaith yn cynnwys 116 o gymunedau (comuni). Y mwyaf yn ôl poblogaeth yw
Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige ac mae'n ffinio ar y Swistir ac Awstria. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladineg, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif. Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.
Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:
Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladineg sydd yn y mwyafrif.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Awst 2023